Amdanom Ni

Prif amcan Gŵyl Rhuthun yw cynnig adloniant sy’n adlewyrchu ein cymuned.

Mae Gŵyl Rhuthun yn sefydliad nid er elw a sefydlwyd yn 1994. Ni yw’r ŵyl gerddorol a diwylliannol fwyaf yng ngogledd ddwyrain Cymru. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo a dathlu celfyddydau, diwylliant a cherddoriaeth y rhanbarth. Bob blwyddyn rydym ni’n cynnal gŵyl wythnos o hyd sy’n cynnwys perfformiadau gan artistiaid lleol a rhyngwladol, arddangosfeydd celf, gweithdai a gweithgareddau addas i’r teulu.

Gŵyl Rhuthun, yr ŵyl gerddorol a diwylliannol fwyaf yng ngogledd ddwyrain Cymru yn dilyn cyfeillio â Briec yn 1994. Mae’r ŵyl wedi datblygu’n gyson dros y blynyddoedd ers hynny i ddod yn wythnos o weithgareddau amrywiol yn cyrraedd uchafbwynt yn y digwyddiad ‘Top Dre’ a gynhelir ar Sgwâr Sant Pedr.

Trefnir yr ŵyl gan bwyllgor o wirfoddolwyr, ac etholir swyddogion newydd bob blwyddyn.


Cadeirydd – Gwion Tomos-Jones

Is-Gadeirydd – Jim Bryan

Ysgrifennydd – Peter Daniels

Trysorydd– Kathy Daniels
chevron-down linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram