Tafarn groesawus gyda staff gwych ac awyrgylch cyfeillgar. Cynigir gwasanaeth da ac adloniant, ac mae croeso i gŵn.
Tafarn leol gyfeillgar, gyda staff gwych ac awyrgylch croesawus. Croeso i gŵn.
Tafarn leol gyda staff cyfeillgar ac amgylchedd rhagorol. Cynigir amrediad o ddiodydd ac adloniant, yn cynnwys dangos chwaraeon byw yn rheolaidd.
Mwy na’ch tafarn leol gyffredin. Dewch i fwynhau cwrw achrededig ‘Cask Marque’, WiFi am ddim a llety ansawdd uchel ar gael os hoffech aros dros nos
Gyda staff cyfeillgar ac amrywiaeth eang o ddiodydd, mae’r Corporation yn cynnig cerddoriaeth ac adloniant gwych yng nghanol Rhuthun.
Saif tafarn y Boars Head yng nghanol Rhuthun, tafarn draddodiadol lle mae pawb yn teimlo’n gartrefol ar unwaith. Mwynhewch eich cyfnod gyda ni, p’un ai i gael diod sydyn, dal i fyny efo ffrindiau neu i ddathlu achlysur arbennig. Croeso i gŵn.
Siop coffi a the ‘Bubble’ sy’n gweini ysgytlaeth, smwddis a phowlenni smwddi hefyd. Cynigir platiau rhannu charcuterie, sawrus a melys, ynghyd â wafflau, toesenni a nwyddau wedi’u pobi.
Caffi bach gyda bwyd da, iachus. Staff cyfeillgar ac awyrgylch cynnes.
Tafarn deuluol annibynnol sy’n cynnig bwyd o safon. Mae ein bwydlen yn cynnig amrywiaeth eang, ac yn cynnwys nifer fawr o ddewisiadau heb glwten. Rydym ni’n gweini dewis rhagorol o gwrw, gwinoedd a gwirod.
Medrwch ddisgwyl gwasanaeth cyfeillgar ac ystyrlon, awyrgylch ymlaciol a dewis eang o gynnyrch cartref a chynnyrch lleol, gyda golygfeydd godidog o Ddyffryn Clwyd.
Rydym ni’n cynnig ystod eang o ddewisiadau, a rhywbeth i bawb. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cwsmeriaid, ein cymuned a’n pobl ac mae gennym ni dîm cyfeillgar a gwasanaeth gwych.
Mae becws Chatwins yn cynnig amrediad eang o fwydydd, yn cynnwys brechdanau, cacennau a nwyddau pôb traddodiadol. Cynigir gwasanaeth gwych gan ein staff cyfeillgar a’n hawyrgylch croesawgar.
Mae’r Ceffyl Gwyn yn amgylchedd sy’n croesawu teuluoedd ac sy’n cynnig gwasanaeth bwyd yn awr, ynghyd â dewis eang o ddiodydd a staff cyfeillgar.
Siop coffi mwyaf cŵl Rhuthun, sy’n gweini coffi lleol, cacennau cartref blasus ac amrywiaeth eang o siocled poeth.
Mae Bwyty Bertie yn dod â rhwysg a chyffro cyfnod y Brenin i’r Castell heddiw. Mwynhewch fwydlen wedi’i ysbrydoli gan seigiau o bob rhan o Ewrop dan siandelïers gyda chorneli distaw ar gyfer pryd rhamantus a byrddau mawr ar gyfer grwpiau mwy.
Adlewyrchir ein hoffter o fwyd a lletygarwch ym mhopeth rydym ni’n ei wneud. Rydym ni’n angerddol ynghylch bwyd cartref wedi’i wneud o gynhyrchion ffres, ansawdd uchel, gan ddefnyddio cyflenwyr lleol.
Mae’n bleser gennym ni eich croesawu chi yn ôl i’r Three Pigeon lle cewch fwynhau bwyd blasus unwaith eto a’r dewis cyfarwydd o gwrw go iawn a gwinoedd.
Caffi bach sy’n cynnig dewis o frecwastau a phrydau pryd ar glud, gyda gwasanaeth rhagorol a staff cyfeillgar.
Tafarn leol gynnes sy’n cynnig bwyd cartref o safon uchel iawn sy’n defnyddio cynhwysion o ffynonellau lleol. Ceir ardal bwyty mawr ar wahân ynghyd â bar bywiog sy’n dangos digwyddiadau chwaraeon yn fyw ar Sky Sports.
Rydym ni’n cynnig amrywiaeth eang o ddiodydd ynghyd â bwydlen sy’n cynnig y gorau o gynnyrch y rhanbarth. Mae croeso cynnes, amgylchedd hardd a bwyd gwych yn aros amdanoch chi.
Caffi wedi’i uwchraddio’n ddiweddar sy’n cynnig detholiad rhagorol o fwyd a diod, ynghyd â staff cyfeillgar ac awyrgylch gwych.
Lle i fwyta mewn steil i’r rhai sy’n mwynhau bwyd modern ffres sy’n manteisio i’r eithaf ar gynhwysion a chynnyrch lleol, sy’n cael ei weini mewn amgylchedd deniadol ond ymlaciol, gyda gwasanaeth heb ei ail.
Darparwn ddetholiad eang o brydau bwyd sy’n cynrychioli gwerth am arian. Mae ein staff yn gyfeillgar a chymwynasgar, a chynigiwn wasanaeth cyflym ac effeithlon.
Bwyty a thecawê Tsieniaidd, sy’n cynnig gwasanaeth cyfeillgar a phrisiau rhesymol.
Cartref bwyta anffurfiol, cymdeithasol! Bwyd steil ‘tapas’, platiau bwyd i’w rhannu a choctêls blasus – y cyfan sydd ei angen am noson i’w chofio!