Rydym ni’n cynnig amrywiaeth eang o ddiodydd ynghyd â bwydlen sy’n cynnig y gorau o gynnyrch y rhanbarth. Mae croeso cynnes, amgylchedd hardd a bwyd gwych yn aros amdanoch chi.
Lle i fwyta mewn steil i’r rhai sy’n mwynhau bwyd modern ffres sy’n manteisio i’r eithaf ar gynhwysion a chynnyrch lleol, sy’n cael ei weini mewn amgylchedd deniadol ond ymlaciol, gyda gwasanaeth heb ei ail.
Darparwn ddetholiad eang o brydau bwyd sy’n cynrychioli gwerth am arian. Mae ein staff yn gyfeillgar a chymwynasgar, a chynigiwn wasanaeth cyflym ac effeithlon.