Digwyddiad cyntaf swyddogol Gŵyl Rhuthun yw Carnifal Rhuthun ar 25 Mehefin eleni.
Mae’r carnifal hynod boblogaidd yn dychwelyd ar ôl egwyl, gan ddechrau gyda’r orymdaith boblogaidd trwy’r dref. Bydd nifer fawr o fflôts lliwgar a chyffrous yn mynd trwy’r dref, yn dechrau ar Heol y Parc, i fyny Stryd Clwyd, i lawr Stryd y Ffynnon ac i gae ysgol fonedd Rhuthun i ymuno yn y Carnifal a’r cyfan sydd ganddo i’w gynnig.
Bydd llawer i’w weld a’i wneud yn yr ŵyl eleni yn cynnwys cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd doniau lleol, bwydydd blasus a llu o stondinau.
Bydd y Carnifal yn cynnwys y sioe gŵn ardderchog unwaith eto!
Dewch â’r teulu i gael diwrnod rhagorol yn Rhuthun a dechrau’r Ŵyl mewn steil!
