
Mae Pedair yn ‘supergroup’ gwerin Cymreig sy’n cynnwys o bosib y 4 cerddor gwerin benywaidd amlycaf yng Nghymru ar hyn o bryd – Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Sian James a Meinir Gwilym. Maen nhw wedi rhyddhau nifer o senglau ac albymau i gymeradwyaeth beirniaid, yn ogystal â pherfformio mewn nifer o leoliadau ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ymuno â nhw bydd Eryrod Meirion – grŵp canu gwerin o bentref Llanuwchllyn ger y Bala sydd wedi cael llwyddiant arbennig mewn cystadlaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Tocynnau ar gael o Siop Elfair.