Digwyddiadau

Cystadleuaeth dylunio crys pêl droed

I ddathlu 30 mlynedd o Ŵyl Rhuthun, mae pwyllgor yr Ŵyl yn cydweithio â Chlwb Pêl Droed Rhuthun i greu crys pêl droed arbennig i ddathlu'r achlysur.

Dechreuodd yr ŵyl yn ôl yn 1994, yn dilyn gefeillio Rhuthun gyda Brieg yn Llydaw. Ac rydym yn awyddus i ddathlu ein gwreiddiau a'u hamlygu ar gyfer y dyfodol. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi gweithio gyda CPD Tref Rhuthun a Macron i gynhyrchu crys unigryw, un a allai fod wedi'i ddylunio gennych chi! Bydd y crys hwn yn drydydd crys swyddogol y clwb pêl-droed, ac ar gael i'w brynu.

Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw llunio dyluniad gan ddilyn y canllawiau ar ochr arall y dudalen hon, gan gynnwys y symbolau ac eiconau Llydaweg a Chymreig fel rhan o’r dyluniad.

info@gwylrhuthunfest.cymru

Subscription Form CY
Wefan gan Snowdon Digital
crosschevron-down linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram