Cyfuniad o 2 draddodiad Cymreig. Y cyntaf yn gyngerdd gyda 2 gôr lleol sef Côr Dyffryn Clwyd a Côr Meibion Marchan a gafodd dipyn o lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan yn 2023. Yr ail yn 'Cymanfa' sef traddodiad canu emynau cynulleidfaol Cymraeg fel arfer mewn adeilad crefyddol . Cynhelir y digwyddiad yng Nghapel Tabernacl sy’n un o gapeli hanesyddol y dref sy’n adnabyddus am ei acwsteg a lle bu’r amlwg Emrys ap Iwan yn Weinidog ar un adeg.