Bydd arddangosfa archif Gŵyl Rhuthun yn dychwelyd i’r Hen Lys eleni.
Gwahoddir y gymuned ac ymwelwyr i ddod i edrych ar hanes a threftadaeth ein gŵyl unigryw trwy ddetholiad o ffotograffau, rhaglenni a llawer rhagor wedi’u dewis a’u dethol yn ofalus, yn dyddio nôl bron i 30 mlynedd!
Bydd yr arddangosfa’n agor ar 25 Mehefin ac i’w gweld bob diwrnod tan 1 Gorffennaf. Mynediad am ddim ac mae’r Hen Lys yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
