
Gyda’r prosiect i adfer Cloc y Dref yn cychwyn o fewn ychydig wythnosau ar ôl yr ŵyl, dyma gyfle i ddysgu mwy am y prosiect a hanes y cloc. Wedi'i adeiladu yn 1883 i goffau bywyd a gwasanaeth Joseph Peers i Ruthun a'r ardal leol, mae'n eicon o'r dref ac fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Fictoraidd amlwg John Douglas. Bydd mynychwyr yn ymgynnull yn yr Hen Lys am 1.30pm cyn cerdded draw a chael cipolwg o tu fewn y Cloc hefyd!