
Mae Firth Flock Flowers yn fenter gymharol newydd a ddechreuwyd yn 2022 sy’n tyfu blodau â llaw ar fferm fechan yn ardal Graigfechan. Cynaladwyedd yw canolbwynt y busnes gyda’r blodau’n cael eu tyfu’n organig mewn cytgord â bywyd gwyllt, gyda hwyaid yn darparu rheolaeth pla a’r gwrtaith o ddiadell o ddefaid Mynydd Du Cymreig brodorol. Mae’r gweithdy fydd ag adnoddau a lluniaeth ar gael, yn gyfle i ddysgu’r grefft o wneud coronau blodau yn ogystal â sgiliau blodeuwriaeth eraill!