Prif ddigwyddiad wythnos yr wyl. 7 awr o gerddoriaeth a dawns ar 2 lwyfan ar sgwâr hanesyddol y dref gydag artistiaid yn amrywio o Bwncath a Fleur de Lys, i Ddawnswyr Wcrain Hoverla ac artistiaid lleol Shambolix a Geraint Woolford. Mae’n ddigwyddiad i’r gymuned gyfan ddod at ei gilydd am brynhawn o adloniant. Bydd ardal weithgareddau ar dir Eglwys San Pedr. Gofynnir i bobl dalu'r ffi mynediad fel y gall y digwyddiad ddychwelyd yn 2025!!