
Noson i feirdd a llenorion lleol ddod at ei gilydd yn awyrgylch hamddenol Llyfrgell y dref. Mae croeso i bawb, o feirdd a llenorion profiadol i rai sydd newydd gychwyn, neu pobl sydd eisiau gwrando. Mae’n gyfle i ddarllen eich gwaith ar goedd i gynulleidfa gaeth, neu ddod o hyd i rywfaint o ysbrydoliaeth o waith eraill ar ffurf noson anffurfiol. Mae Llyfrgell hanesyddol y dref yn lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiad o’r fath. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.