
Gyda’r ymwelwyr o gefeilldref Rhuthun, Brieg, yn cyrraedd y diwrnod cynt, bydd band pibau Brieg y ‘Bagad’ yn perfformio mewn rhai lleoliadau yn lleol cyn eu prif berfformiadau yn Top Dre yr ŵyl ar ddydd Sadwrn olaf yr wythnos. Byddant yn perfformio i drigolion Llys Awelon ac yna yng nghwrt yr Hen Garchar ar Stryd Clwyd yn y prynhawn. Mae’r ddau ddigwyddiad yn agored i’r cyhoedd ac mae croeso i bawb weld eu perfformiadau.