
Bydd yr awdur lleol Gene Moran yn sôn am ei nofel lled-hunangofiannol 'Running on the Spectrum' sy'n adrodd hanes Tom Mallalieu, athro sy'n gweithio mewn ysgol arbennig yng Ngogledd Cymru, a'i ddisgyblion heriol ar brydiau. Mae Tom yn sylweddoli’n fuan fod meithrin perthynas â’i fyfyrwyr yn hanfodol os yw unrhyw addysgu neu ddysgu i ddigwydd. Ei ddiddordeb ei hun mewn rhedeg a’i gariad at Eryri yw’r cyfrwng y mae’n ei ddefnyddio i feithrin cysylltiadau cryf â’i fyfyrwyr, gan ddatblygu rhai yn athletwyr hynod. Nid oes tâl mynediad ar gyfer y digwyddiad hwn ac ni werthir unrhyw docynnau ymlaen llaw; cyntaf i'r felin yw hi yn y bôn, felly dewch i'r lleoliad yn gynnar i warantu sedd.