Ffurfiwyd y côr hwn yn gymharol ddiweddar ac mae'n ymarfer yn wythnosol fel arfer yn Neuadd y Farchnad Rhuthun (ond ar adegau yn Eglwys San Pedr). Mae aelodaeth y côr yn cynnwys pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia a hefyd aelodau o’u teulu, ond hefyd ystod eang o bobl – ond mae pawb eisiau canu gyda’i gilydd. Y digwyddiad hwn yw ymarfer wythnosol y côr ond estynnir croeso cynnes i bobl sydd â diddordeb mewn ymuno â’r côr neu sydd eisiau dod draw i wrando.