Gyda digwyddiad Top Dre ar y dydd Sadwrn canlynol, dyma gyfle i bobl sydd eisoes wedi cytuno i wirfoddoli ond hefyd pobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i ddod draw i ddysgu mwy am y gwaith a gofyn cwestiynau i bwyllgor yr ŵyl. Mae hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â gwirfoddolwyr eraill yn y digwyddiad sydd bellach y digwyddiad diwylliannol mwyaf poblogaidd y dref ac yn dathlu ei 30ain blwyddyn y tro hwn. Darperir lluniaeth ysgafn.