
Mae gardd brydferth Nantclwyd y Dre yn cael ei chynnal yn bennaf gan wirfoddolwyr o’r gymuned leol a thu hwnt sy’n neilltuo cannoedd o oriau bob blwyddyn i sicrhau bod yr ardd yn edrych mor wych ag y mae. Mae’r sesiwn yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli am y diwrnod yn unig neu’n fwy rheolaidd (mae’r grŵp o wirfoddolwyr yn cyfarfod yn yr ardd bron bob dydd Llun i wneud gwaith). Mae gan y gwaith ei wobrwyon yn bendant – gardd fwyaf hanesyddol Rhuthun yn edrych yn wych!